Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
|
||
|
Agenda (147)v5 |
Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan i ben. Bydd y Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan yn cychwyn am 13.30 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (90 munud) |
4 Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth (Cymru) 2013 (15 munud) NDM5293 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2013.
Dogfennau Ategol |
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol - gohiriwyd NDM5259 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r trefniadau archwilio ar gyfer y Byrddau Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn rhannol oddi fewn i Gymru, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I
weld copi o’r Bil ewch i: Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol |
6 Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2013-14 (30 munud) NDM5278 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 25 Mehefin 2013. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau Ategol Addroddiad Y Pwyllgor Cyllid Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol ar gyfer 2013–2014 |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2013